top of page

Cymuned

Daeth y syniad gwreiddiol ar gyfer Cymuned, Neuadd Bentref Rhithwir Ynys Môn, gan Gydlynydd Strategaeth Pobl Hŷn Cyngor Ynys Môn, sydd bellach wedi ymddeol, sef Brian Jones. I ddatblygu’r syniad hwn o ganolbwynt cymunedol ar-lein i’r ardal, ffurfiwyd partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ynys Môn, Age Cymru Gwynedd a Môn, a Medrwn Môn. Dechreuodd trafodaethau cyn y pandemig, ond Covid-19 a amlygodd pa mor werthfawr y gall gwefannau cymunedol fel Cymuned fod i bobl sy’n profi unigedd, neu hyd yn oed i bobl sydd eisiau ymwneud ychydig yn fwy ag eraill lle maent yn byw.

yn Lansiwyd gwefan Cymuned yn swyddogol ddiwedd 2021, a gyda hynny daeth ‘Neuadd Bentref Rhithwir Môn’ yn fyw!

 

Mae datblygiad gwefan Cymuned wedi uno hybiau cymunedol ar draws Ynys Môn, sy’n caniatáu iddynt roi cyhoeddusrwydd i’w digwyddiadau mewn un lle ar-lein, ac yn cynnig dull cyfunol o gael mynediad at ddigwyddiadau lleol, sy’n ceisio darparu ar gyfer anghenion amrywiol y rhai sy’n byw ar yr Ynys.

bottom of page