top of page

Am Medrwn Mon

Mae Medrwn Môn yn asiantaeth annibynnol yn Llangefni sy'n darparu cefnogaeth a chyngor i fudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol ar Ynys Môn gan eu galluogi i weithio'n fwy effeithiol. 

Ein Cenhadaeth

  • Darparu cyngor a chefnogaeth ymarferol i grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol ar:  

    • Cyllid cynaliadwy

    • Gwirfoddoli

    • Llywodraethu da

    • Ymgysylltu a dylanwadu

  • Cefnogi sefydliadau gwirfoddol a chymunedol i ddatblygu a chynnal partneriaethau cryf a chyfleoedd rhwydweithio

  • Hyrwyddo cyfleoedd i wirfoddoli a chymryd rhan yn y gymuned

  • Nodi anghenion hyfforddi, trefnu a darparu gweithdai hyfforddi a chymorthfeydd ariannu

  • Annog pobl, grwpiau a sefydliadau i ddweud eu dweud ar wasanaethau cyhoeddus a’u cymuned

  • Darparu cymorth gweinyddol a gwasanaethau ymarferol.

​

  • nodi bylchau yn y ddarpariaeth y gellid eu llenwi drwy'r sector gwirfoddol neu gymunedol

  • datblygu mentrau a phrosiectau lleol

  • sefydlu mentrau newydd

Ein Nodau

Nod Medrwn Môn yw hyrwyddo a chefnogi mudiadau gwirfoddoli, gwirfoddol a chymunedol drwy weithio gydag unigolion, grwpiau a chymunedau ar Ynys Môn i sicrhau eu bod yn chwarae rhan lawn ac amlwg wrth ddatblygu potensial yr Ynys.

​

Mae Medrwn Môn yn asiantaeth annibynnol sy'n darparu cymorth a chyngor i fudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol sy'n eu galluogi i weithio'n fwy effeithiol. 

​

Mae Medrwn Môn yn chwarae rhan hanfodol wrth gynrychioli'r sector gwirfoddol a chymunedol drwy fynegi barn y sector i bartneriaethau, llywodraeth leol a chyrff statudol eraill, gan sicrhau bod barn y sector yn cael ei chlywed.

​

Trwy weithio mewn partneriaeth ag eraill a thrwy ymateb yn gadarnhaol ac yn ddychmygus, ein nod yw cryfhau a grymuso cymunedau ledled Ynys Môn.

bottom of page