top of page
Cyswllt Cymunedol
Mae Cyswllt Cymunedol Môn yn rhedeg gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol i bobl dros 18 oed a theuluoedd sy’n byw ar Ynys Môn. Gallai’r gwasanaeth helpu os ydych yn profi unrhyw un o’r canlynol:
-
Teimlo'n ynysig yn gymdeithasol
-
Eisiau gwella iechyd corfforol
-
Diffyg hyder
-
Angen dod o hyd i rywfaint o gymorth a gwybodaeth ymarferol i wella'ch sefyllfa.
Bydd ein tîm o Gydlynwyr Asedau Lleol yn:
-
Gweithio gyda chi i nodi gweithgareddau a gwasanaethau cymunedol yn eich ardal sy'n addas i'ch diddordebau
-
Cynnig cefnogaeth i chi gael mynediad at y gweithgareddau a'r gwasanaethau hyn
-
Eich helpu i wella eich llesiant, eich hyder a’ch annibyniaeth.
Os hoffech chi wneud hunan-atgyfeiriad, pwyswch y botwm hunangyfeirio isod
bottom of page