Mae'r holl waith y mae Medrwn Môn yn ei wneud wedi'i ganoli o amgylch ein pileri allweddol. Mae’r pileri allweddol hyn yn hollbwysig yn ein gwaith o ddydd i ddydd ac i helpu Ynys Môn.
Ariannu Cynaliadwy
Mae Medrwn Môn yn gweithio i sicrhau bod y trydydd sector yn ffynnu ac yn gynaliadwy, a bod sefydliadau yn sicrhau ac yn cynhyrchu'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i oroesi, ffynnu a pharhau'n berthnasol yn y dyfodol.
Gwirfoddoli
Mae Medrwn Môn yn gweithio i ddatblygu dinasyddion gweithgar a chyfranogol trwy alluogi mwy o bobl a chymunedau i elwa o wirfoddoli.
Llywodraethu Da
Mae Medrwn Môn yn gweithio tuag at Gefnogi ymddiriedolwyr gwirfoddol ac aelodau pwyllgor rheoli i ragori wrth lywodraethu eu sefydliadau a darparu canlyniadau o ansawdd
Ymgysylltu a Dylanwadu
Mae Medrwn Môn yn gweithio i sicrhau y gall sefydliadau ddylanwadu’n effeithiol ar bolisi, craffu ar wasanaethau cyhoeddus a gweithredu fel llwybr i gyfranogiad dinesig yn enwedig ar gyfer grwpiau difreintiedig a lleiafrifol.