top of page

Ymgysylltu â'r Gymuned ac Ymgynghoriadau

Credwn y dylai pobl leol, grwpiau cymunedol a sefydliadau'r trydydd sector gael y cyfle i helpu i lunio'r prosiectau, y gwasanaethau a'r penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Mae'r dudalen hon yn dwyn ynghyd arolygon, holiaduron ac ymgynghoriadau cyfredol gan Medrwn Môn, yn ogystal â rhai gan y grwpiau a'r sefydliadau rydym yn eu cefnogi ar draws Ynys Môn.

Gall eich adborth helpu mewn nifer o ffyrdd – o ddarparu tystiolaeth o angen ar gyfer ceisiadau am gyllid, i helpu i lunio prosiectau a gweithgareddau newydd yn seiliedig ar yr hyn y mae cymunedau wir ei eisiau. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn am adborth ar brosiectau sydd eisoes wedi'u cyflawni, er mwyn i ni allu deall beth a weithiodd yn dda, beth y gellid ei wella a pha wahaniaeth y maent wedi'i wneud.

O bryd i'w gilydd, byddwn hefyd yn defnyddio'r gofod hwn i gasglu barn ar faterion ehangach sy'n effeithio ar sefydliadau cymunedol a'r trydydd sector ar yr ynys.

Drwy dreulio ychydig funudau yn rhannu eich profiadau, eich syniadau a'ch barn, gallwch helpu i sicrhau bod prosiectau a chymorth yn y dyfodol yn seiliedig ar anghenion a blaenoriaethau'r bobl a'r cymunedau y maent yno i'w cefnogi.

Cymerwch olwg ar yr ymgynghoriadau cyfredol isod a rhowch eich barn.

image.png

Asesiad o Anghenion y Boblogaeth yng Ngogledd Cymru 2027 (yn cau ym mis Medi 2026)

image.png
image.png

Blaenoriaethau ar gyfer y Seithfed Senedd – Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon (yn cau ar 28 Awst 2026)

image.png

Cysylltwch â Ni

 Medrwn Môn, Canolfan Fusnes, Bryn Cefni, LLANGEFNI, Ynys Môn LL77 7XA

 Ffôn: 01248 724944
E-bost: post@medrwnmon.org

 

Dilynwch ni

  • Facebook
  • Twitter
  • YouTube
  • Instagram

Charity number: 1088828

bottom of page