
Fy enw i yw Sheree Ellingworth, ac rwyf wedi gweithio i Medrwn Môn ers 2017. Dechreuais fy rôl ym Medrwn Môn fel Cydlynydd Asedau Lleol gyda'r Tîm Linc Cymunedol Môn.
Rwy'n mwynhau gweithio yn y trydydd sector ac yn caru bod yn rhan o waith sy'n creu newid cadarnhaol yn y gymuned. Yn fy rôl bresennol fel Swyddog Llesiant y Trydydd Sector a'r Gymunedau, rwy'n gyfrifol am hyrwyddo a chodi proffil y trydydd sector a'i werth ychwanegol i'r partneriaid hynny sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Rwyf wedi sefydlu Rhwydwaith Llesiant y Trydydd Sector, lle rwy'n cynnal digwyddiadau rhwydwaith chwarterol ar bynciau perthnasol, i annog grwpiau a sefydliadau i siarad gyda'i gilydd, i rannu arfer da, nodi cyfleoedd i gydweithio a nodi blaenoriaethau i weithio tuag atynt yn y dyfodol.
Yn ogystal â hyn, rwy'n rhannu gwybodaeth, yn cynnal digwyddiadau ac yn cynnal sesiynau hyfforddi, yn codi ymwybyddiaeth o flaenoriaethau lleol o fewn yr agenda iechyd a lles ac yn eu cofnodi, trwy Rwydwaith y Trydydd Sector.
