Yr ydych yma: Unigolion a'r Gymuned > Cynllunio Lle > Cynllunio Lle
Cynllunio Lle
Mae Medrwn Môn yn gweithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn i ddatblygu rhaglen Cynllunio Lle ar draws yr Ynys.
Mae Cynllunio Lle yn edrych ar sut allwn ni wneud ein cymunedau'n gryfach a chadarnach i'r dyfodol trwy ddeall beth sydd gan y cymunedau o ran asedau - adeiladau, mannau gwyrdd, sgiliau a gwybodaeth, grwpiau cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus.
Trwy ddeall sut olwg sydd ar ein cymunedau nawr, byddwn yn gallu cynllunio a gweithio ar unrhyw flaenoriaethau a nodwyd fel bod ein cymunedau yn barod i ddelio â newidiadau yn y dyfodol mewn gwasanaethau ac yn barod i gymryd rhan a lleisio barn ar sut y gall newidiadau effeithio arnyn nhw.
Rydym, er enghraifft, yn holi pobl be sy'n gweithio'n dda yn eu cymunedau, neu oes yna rai pethau y bydden nhw'n hoffi ei newid. Bydd y canlyniadau wedyn yn cael eu rhannu'n eang gyda'r rhai sy'n darparu gwasanaethau o fewn ein cymunedau (h.y. Cynghorau Lleol, yr Heddlu, Gwasanaethau Tân ac Iechyd) a'r rhai sy'n gyfrifol am ddatblygiadau mawr.
Gallwch lenwi ein holiadur ‘Cynllunio Lle’ yma:
Cymraeg - Holidaur Cymraeg
Saesneg - Holiadur Saesneg
Adroddiad Pecyn Cymorth Walkability
Adroddiad yn manylu ar sgyrsiau a gynhaliwyd â Phobl Hŷn ar draws Ynys Môn ynghylchyr ardal lle maent yn byw a gweithio.