top of page
Search
Writer's pictureMedrwn Mon

Medrwn Môn - Technoleg mewn gofal (Digwyddiad rhwydweithio)

Ar y 14eg o Fehefin 2023 cynhaliodd Medrwn Môn Ddigwyddiad Rhwydwaith Trydydd Sector ynghylch Defnyddio Technoleg mewn Iechyd, Gofal a Lles.


Mae technolegau digidol wedi datblygu'n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac yn fwy hanfodol o fewn y system gofal a iechyd. Gall ddefnyddio technoleg yn y cartref fod â’r potensial nid yn unig i hwyluso rôl gofal a iechyd adref ond hefyd i helpu unigolion i aros yn hapusach ac yn iachach yn ei cartref yn hirach.


Cynlluniwyd y digwyddiad i ysgogi trafodaeth ar saith prif thema ein Prosiect Technoleg mewn Gofal, sef:

· Diogelwch yn y cartref

· Diogelwch yr adeiliad/cartref

· Diogelwch person

· Rhyngweithio cymdeithasol

· Iechyd a ffitrwydd

· Dysgu

· Iechyd meddwl


Mynychodd 14 o sefydliadau a grwpiau, gyda chyflwyniad ar bob thema yn cael ei roi i amlygu llawer o’r gwaith da sydd eisoes yn digwydd yn y maes hwn. Cynhaliwyd sesiynau yn y bore a’r prynhawn a rhoddwyd cyfle hefyd i’r mynychwyr gymryd rhan yn y Profiad Realiti Awtistiaeth, sy’n darparu gwers agoriad llygad ar yr effaith y mae awtistiaeth yn ei chael ar fywyd o ddydd i ddydd.


O’r trafodaethau ar draws y 7 thema, rydym wedi casglu’r holl wybodaeth ac wedi adnabod 3 blaenoriaeth sy’n codi dro ar ôl tro.

· Cyfathrebu a Hygyrchedd: roedd y rhai oedd yn bresennol eisiau gwybod mwy am ba dechnoleg sydd ar gael a phwy sy'n ei darparu, sut mae pobl yn cael eu cyfeirio at wasanaethau a phrosiectau a sut mae gwybodaeth yn cael ei rhannu fel ei bod yn cyrraedd y bobl sydd ei hangen.

· Hyfforddiant: yma roedd pobl eisiau gwybod a oedd cymorth i bobl sefydlu a defnyddio'r dechnoleg, sut y gallem helpu i gadw pobl yn ddiogel gan ddefnyddio technoleg ac a oedd unrhyw hyfforddiant ar gael

· Cost: cwestiynau'n ymwneud â chyllid ar gyfer yr offer a rhedeg chostau yn ogystal ag opsiynau ar gyfer benthyca offer a thaliadau rhyngrwyd


Yn dilyn y digwyddiad casglodd Sheree Ellingworth, ein Swyddog Cymunedol a Llesiant Trydydd Sector yr holl wybodaeth a dywedodd ‘Nawr daw’r rhan hwyliog o sut y gallwn fynd i’r afael â’r materion hyn. Mae Medrwn Môn yn hapus i arwain ar sut y gellir mynd i'r afael â'r blaenoriaethau hyn. Ond fel rydyn ni i gyd yn gwybod, gweithio fel tîm yw’r ffordd orau a mwyaf effeithiol bob amser o symud pethau ymlaen felly rydyn ni wedi gofyn i’r bobl hynny a gymerodd ran yn y diwrnod weithio gyda ni ac mae nifer eisoes wedi cytuno!


Hoffai Sheree ddiolch i bawb a fynychodd ac a gymerodd ran yn ein Rhwydwaith Trydydd Sector cyntaf y flwyddyn. Roedd yn wych gweld cymaint o bobl o wahanol grwpiau a sefydliadau yn cymryd rhan.

Hoffai Medrwn Môn hefyd estyn diolch yn fawr i Ceri Seeley (Swyddog Digidol Medrwn Môn, yn arwain ar y Prosiect Technoleg mewn Gofal), Bethan Bailey (Rheolwr Cynllunio ar gyfer y Rhaglen Cyflymu Datblygu Clystyrau) a Helen Williams (Cydlynydd Clwstwr ar gyfer Arfon ac Ynys Môn) ill dau yn cynrychioli Betsi Cadwaladr, a agorodd y diwrnod gyda chyflwyniad ar raglen Datblygu Clwstwr Ynys Môn.



15 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page