Yr ydych yma: Linc Cymunedol Môn > Linc Cymunedol Môn
Linc Cymunedol Môn
Mae Linc Cymunedol Môn yn rhedeg gwasanaeth Prescreibio Cymdeithasol ar gyfer pobl dros 18 oed a theuluoedd sy’n byw ar Ynys Môn. Gall y gwasanaeth eich helpu chi os ydych:
-
Yn teimlo’n ynysig yn gymdeithasol
-
Eisiau gwella eich iechyd corfforol
-
Yn dioddef o ddiffyg hyder
-
Angen dod o hyd i rhywfaint o gefnogaeth ymarferol a gwybodaeth er mwyn gwella eich sefyllfa.
Bydd ein tîm o Gydlynwyr Asedau Lleol yn:
-
Cydweithio hefo chi i adnabod gweithgareddau a gwasanaethau cymunedol yn eich ardal sy’n addas ar gyfer eich diddordebau.
-
Cynnig cefnogaeth i chi fynychu’r gweithgareddau a’r gwasanaethau yma.
-
Eich helpu i wella eich lles, hyder ac annibyniaeth.
Sut ydw i’n cael fy nghyfeirio?
Fe all eich Meddyg Teulu awgrymu eich bod yn cael eich cyfeirio ar ôl adnabod y byddai cael rhywfaint o gymorth ychwanegol yn gallu gwella eich iechyd a’ch lles. Fe allwch CHI hefyd gysylltu â Linc Cymunedol Môn eich hun, neu ofyn i aelod o’r teulu neu ffrind i gysylltu â ni:- 01248 725745 linc@medrwnmon.org
I ddarllen 'Hysbysiad Preifatrwydd' Linc Cymunedol Môn cliciwch YMA
Hunan-Gyfeirio