Yr ydych yma: Gwybodaeth a Chyngor > Gwirfoddoli
Gwirfoddoli
Mae Medrwn Môn yn gweithio i ddatblygu dinasyddion gweithgar a chynwysedig drwy alluogi mwy o bobl a chymunedau i elwa o wirfoddoli. Rydym yn gweithio tuag at hyn drwy wneud y canlynol:
Gweinyddu a hybu rhaglenni grantiau: rhoi cymorth i ddatblygu’r gallu i recriwtio a chefnogi sylfaen gynaliadwy o wirfoddolwyr ym Môn.
Hybu arfer da ac arloesedd mewn gwirfoddoli: gweithio gyda phartneriaid i alluogi datblygiadau gwirfoddoli strategol, hybu arfer da a threialu dulliau newydd.
Gwybodaeth, arweiniad a chysylltu mudiadau â chymorth arbenigol: darparu gwybodaeth, arweiniad a chymorth i fudiadau ddatblygu arferion gwirfoddoli da, eich cysylltu â gwybodaeth arbenigol a chyngor sy’n diwallu eich anghenion orau.
Llwyfan digidol gwirfoddoli: galluogi mudiadau i ddatblygu a hybu cyfleoedd gwirfoddoli o safon sydd o fewn cyrraedd pawb, dod o hyd i rôl sy’n gweddu i’r gwirfoddolwr a darparu offer digidol i reoli gwirfoddolwyr drwy’r wefan genedlaethol www.gwirfoddolicymru.net.
Rhwydweithiau, dysgu a datblygu: bod yn gyfrwng i rannu gwybodaeth, deallusrwydd, arfer da, a chyfleoedd dysgu a datblygu sy’n cefnogi cynnydd parhaus.
Digwyddiadau, hyrwyddo a chydnabyddiaeth: codi proffil llwyddiannau gwirfoddolwyr unigol a’u cyfraniad cyfunol at lesiant Ynys Môn.