Ymgynghori a'ch Barn
Ar y dudalen hon cynhwysir gwahanol bapurau a dogfennau sydd ar hyn o bryd yn mynd trwy broses ymgynghori gyda chymunedau a sefydliadau er mwyn cael barn a syniadau pobl am y gwasanaethau arfaethedig neu newidiadau a allai effeithio arnynt.
Tarwch olwg drwy'r dogfennau hyn ac ymateb iddynt gydag unrhyw syniadau sydd gennych.
Mae ymgynghori effeithiol a realistig gyda phobl a sefydliadau yn hanfodol er mwyn datblygu a darparu gwelliannau a gwasanaethau o werth bydd yn gallu helpu unigolion a chymunedau.
Ymgynghoriad ar hyn o bryd
Ymgynghoriad cyhoeddus Cyngor Sir Ynys Môn ar gynigion cyllidol 2012-2013 a'r Cynllun Busnes Corfforaethol drafft 2012 - 2015
Cliciwch yma i lawrlwytho dogfen sy'n sail i ymgynghoriad cyhoeddus y Cyngor ar gynigion cyllidol 2012 - 2013.
Cliciwch yma i lawrlwytho Cynllun Busnes Corfforaethol y Cyngor 2012-2015.
I ddarllen llythyr at y Rhanddeilwyr cliciwch yma.
*******************************************************************************
Ymgynghoriad - Mwy na geiriau - Fframwaith Strategol
Cliciwch yma i weld mwy na geiriau …. Fframwaith Strategol i Wasanaethau Iechyd yr Iaith Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol Fframwaith Strategol dogfen ymgynghoriad sy'n gorffen 30 Ebrill 2012.
******************************************************************************
Dogfen Ymgynghori Diwygio'r PAC
Cliciwch yma i weld dogfen ymgynghori diwygio'r PAC: Sgwrs am y ffordd ymlaen yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
********************************************************************************
Gwahoddiad i Ddigwyddiad Ymgynghori Trydydd Sector
Plant yng Nghymru - digwyddiadau AM DDIM
Cliciwch yma am wybodaeth am ddigwyddiadau am ddim yng Nghymru.
I lawrlwytho ffurflen archebu cliciwch yma.
*********************************************************************************
Mae Ynni Cymunedol Cymru (CEW) yn bwriadu dod â’r nifer cynyddol o gynlluniau ynni cymunedol ledled Cymru at ei gilydd i ffurfio un llais unedig ar gyfer y sector hwn.
Mae Cynnal Cymru ynghyd â'r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy, nawr yn gwahodd pob sefydliad ac unigolyn sy’n rhan o gynlluniau ynni cymunedol a’r rheiny sy’n cefnogi eu nodau i helpu ffurfio strwythur a swyddogaeth y corff newydd hwn sy’n dod i’r amlwg.
Mae’r ymgynghoriad ar agor tan ddiwedd 2011, a dylid cyflwyno sylwadau i cew@cynnalcymru.com.
Am wybodaeth bellach, ewch i CynnalCymru.com
*******************************************************************************
Bwletin Ymgynghori wythnosol WCVA 9/12/11
Cliciwch yma i weld y Bwletin Ymgynghori diweddaraf.
*******************************************************************************
Lansiad y Cyfnod Ymgynghori ar yr Adolygiad o’r Ystâd
Yn dilyn adolygiad cynhwysfawr ac annibynnol o sut mae ein 49 gorsaf heddlu ac adeiladau eraill yn gweithredu ac yn cael eu defnyddio gan y cyhoedd, mae’r Heddlu ac Awdurdod yr Heddlu wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau tymor hir ar gyfer yr ystâd.
Bydd yr ymgynghoriad ar y strategaeth yn rhedeg tan y 1af o Chwefror. Anfonwch eich safbwyntiau at consultation@north-wales.police.uk neu ysgrifennwch at Ymgynghoriad Drafft yr Ystâd, Glan y Don, Bae Colwyn, Conwy. LL29 8AW. Bydd y manylion llawn ar gael ar wefannau Awdurdod yr Heddlu http://www.nwalespa.org a’r Heddlu http://www.north-wales.police.uk
********************************************************************************
Sustem optio-allan ar gyfer Rhoi Organau - beth ydych chi’n credu? Cael dweud eich dweud mewn digwyddiad sy’n lleol i chi!
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymdrechu’n barhaus i gynyddu nifer y rhoddwyr organau. Yn ogystal â pharhau i weithredu argymhellion Tasglu Rhoi Organau y DU, byddwn hefyd yn cyflwyno Bil Rhoi Organau.
Byddai’r Bil Rhoi Organau yn creu system o optio allan o roi organau. Mae hyn yn golygu y bydd organau a meinweoedd unigolyn ar gael i’w rhoi ar ôl iddo farw oni fydd wedi mynegi gwrthwynebiad i hynny. Mae’r ymgynghoriad Papur Gwyn yn gofyn am ymatebion i gynigion Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth ar roi organau a meinweoedd.
Ar 8fed Tachwedd 2011, cyhoeddodd y Llywodraeth Papur Gwyn oedd yn amlinellu’r amserlen ar gyfer cyflwyno system optio allan. Caiff Bil ei gyflwyno yn 2012, gallai’r ddeddfwriaeth fod y ei lle erbyn 2013 a gallai system feddal o optio allan gael ei chyflwyno yn 2015. Mae’r Papur Gwyn yn amlinellu cynigion ar sut y byddai’r system yn gweithio gan gynnwys:
· dim ond pobl sy’n 18 oed neu’n hŷn ac sy’n byw ac yn marw yng Nghymru fyddai’n cael eu cynnwys o dan y system;
· byddai’n rhaid i unigolion fod wedi byw yng Nghymru am gyfnod digonol cyn cael eu cynnwys mewn system optio allan - mae’r Papur Gwyn yn gwahodd pobl i roi eu barn ar ba mor hir y dylai’r cyfnod hwnnw fod;
· cynnig pedwar opsiwn ynghylch sut y gellid cofnodi dymuniadau pobl ynglŷn â rhoi eu horganau - gan gynnwys cadw cofrestr o’r rheini sydd wedi gwrthwynebu a’r rhai nad ydynt wedi gwrthwynebu, neu beidio cadw cofrestr o’r rhai sydd wedi gwrthwynebu.
Mae manylion ar y cynigion (yn cynnwys y papur eu hunan) ar gael o wefan Rhoddi Organau ar http://wales.gov.uk/consultations/healthsocialcare/organ/?lang=cy
Mae Llywodraeth Cymru yn awchus i weithio’n agos gyda’r cyhoedd er mwyn clywed ei barnau ar y pwnc pwysig hwn. Ar ran y Llywodraeth, mae Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru wedi trefnu digwyddiad ar 8 Rhagfyr 2011 yn Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor, Heol Ffriddoedd, Bangor. LL527 2TR rhwng 5.30pm – 7pm.
Os hoffech fynychu’r digwyddiad ymgynghori, cysylltwch â Swyddfa’r Bwrdd Bicau yng Nghymru ar 0845 644 7814 neu enquiries@waleschc.org.uk
Y Cynllun Plant
Rhywbeth y mae rhaid i Lywodraeth Cymru ei gynhyrchu o dan Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yw'r Cynllun Plant. Mae'n disgrifio beth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau eu bod nhw yn rhoi sylw i hawliau plant nawr ac yn y dyfodol.
I gael dweud eich dweud cliciwch yma.
*****************************************************************************
Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd y Cyngor
Mae gan Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cymru ddiddordeb clywed barn unigolion, grwpiau a mudiadau ar y testun deiseb i ffilmio a recordio cyfarfodydd y Cyngor.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
***************************************************************************
Manylion Gwariant Awdurdod Lleol dros £500
Mae gan Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cymru ddiddordeb clywed barn unigolion, grwpiau a mudiadau ar y testun deiseb i ffilmio a recordio cyfarfodydd y Cyngor ynglyn â Gwariant Awdurdod Lleol dros £500.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
****************************************************************************
Ymgynghoriad Cyngor: Ein Hynys, Ein Cyngor, Eich Cyfraniad
“Rydym yn estyn gwahoddiad i chi leisio eich barn am eich blaenoriaethau i wella ein Ynys a’n Cyngor i’r dyfodol. Mae eich barn yn hynod o bwysig i ni.
Rydych yn ymwybodol o’r pwysau ariannol sydd arnom yn ystod y blynyddoedd nesaf a’r angen i flaenoriaethu a chynllunio gwasanaethau’n ofalus. Gallwn weithio ar y cyd i gyflawni hyn yn llwyddiannus.
Byddwn yn ymweld â lleoliadau gwahanol ar yr Ynys ac yn canolbwyntio ar y meysydd isod.”
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth a manylion cyswllt.
****************************************************************************
* Ymgynghoriad Cronfeydd Strwythurol Ewrop ôl 2013
Llawrlwythwch y ddogfen Briff pdf yma am fwy o wybodaeth.
****************************************************************************
* Ymgynghoriad Arolygaeth Gofal & Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Cyfranogaeth Cymru yn helpu Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) i ymgysylltu’n effeithiol gyda’i rhanddeiliaid yn ystod y chwe mis nesaf er mwyn cael eu sylwadau ar wasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol maen nhw wedi derbyn a hefyd perfformiad AGGCC yn ystod 2010-11.
Rydym yn edrych i redeg grwpiau ffocws gyda grwpiau yng Ngogledd Cymru dros y mis nesaf. Os ydych chi’n gwybod am unrhyw grŵp fyddai â diddordeb cysylltwch â Mandy Williams ar 029 2043 1725 neu awilliams@wcva.org.uk.
****************************************************************************
* Cymunedau yn Gyntaf – Y Dyfodol
Ymgynghoriad yn gofyn am eich barn ar y newidiadau a gynigir i raglen Cymunedau yn Gyntaf.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 05/07/2011 - Diwedd y cyfnod ymgynghori: 26/09/2011
O fis Ebrill 2012, bydd rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru yn newid i fod yn Raglen sy'n canolbwyntio ar y Gymuned a bydd yn cefnogi agenda Gwrth-dlodi Llywodraeth Cymru.
Ewch i wefan Llywodraeth Cymru am fwy o wybodaeth a cyfle i gyflwyno eich sylwadau.
****************************************************************************
* Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ei lansio ar Wasanaethau Dwyieithog y Cynulliad.
Ar 3 Awst, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, lansiodd Comisiwn y Cynulliad ymgynghoriad cyhoeddus cyn y broses ddeddfu ar Fil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) ac ar y Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog drafft.
Mae’r Bil a’r Cynllun yn rhan o uchelgais y Cynulliad i alluogi’r cyhoedd i gyfathrebu ac ymgysylltu’n ddwyieithog gyda’r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd y cyhoedd i ymateb i’r ymgynghoriad hwn drwy fynd i’w wefan, lle ceir manylion llawn y Bil a’r Cynllun. Gellir e-bostio’r ymatebion i bilingualservices@wales.gov.uk. Rhaid derbyn yr ymatebion erbyn 14 Hydref.
*****************************************************************************
* Cytundeb Iechyd Gogledd Cymru a'r Trydydd Sector
"Cyd-weithio'n lleol ar gyfer iechyd a lles bobl Gogledd Cymru"
Mae’r egwyddorion yn y Cytundeb hwn yn fframwaith ar gyfer cyd-weithio mwy effeithiol tuag at nodau cyffredin er lles unigolion a chymunedau yn y boblogaeth leol ar hyd a lled Gogledd Cymru. Y nod yn gyffredinol ydy gwella iechyd a lles pobl Gogledd Cymru.
Gweler dogfen pdf Cytundeb Iechyd Gogledd Cymru a'r Trydydd Sector am fwy o wybodaeth.
Anfonwch unrhyw sylwadau yn ôl atom yn Medrwn Môn drwy e-bost i post@medrwnmon.org erbyn 30 Hydref 2011