Uned Defnyddwyr Môn
Pwrpas yr Uned Defnyddwyr yw i roi cefnogaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.
PAM?
- Sicrhau llais defnyddwyr yn y broses gynllunio
- Annog defnyddwyr i fynegi eu barn
- Gofalu fod y rhai sy’n cynllunio gwasanaethau yn ymgynghori gyda defnyddwyr
- Ymchwilio’n annibynnol a diduedd i broblemau a sylwadau defnyddwyr
AMCANION YR UNED
- Ymgynghori gydag unigolion a grwpiau
- Cynnig cefnogaeth i’r rhai sy’n dymuno mynegi eu barn ar wasanaethau
- Eirioli ar ran defnyddwyr gwasanaethau
- Cyfeirio at fudiadau a chyrff eraill ar gyfer cymorth a chyngor
- Cyflwyno eich sylwadau i Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor Sir
Am ragor o wybodaeth am yr Uned, neu os hoffech drafod gwasanaeth, cysylltwch â Maureen Haf, Swyddog Uned Defnyddwyr ar 01248 724944 neu e-bost maureen@medrwnmon.org