Cyfleoedd Hyfforddiant
Mae Cyrsiau ar gyfer Cymunedau Cymru yn rhaglen genedlaethol newydd o hyfforddiant fforddiadwy ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol a ddarperir drwy bartneriaeth rhwng cynghorau gwirfoddol sirol, canolfannau gwirfoddolwyr a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).
Mae’r rhaglen yn cynnwys 54 o gyrsiau hyfforddi ac yn anelu at gynnwys popeth ynghylch rhedeg grŵp gwirfoddol neu gymunedol - o wybodaeth ynghylch sut i droi eich syniadau’n brosiect, i ganfod ffynonellau ariannu, cyflogi pobl, rheoli eich arian a hyrwyddo’ch prosiect.
Mae’r hyfforddiant hwn a luniwyd yn bwrpasol ar gyfer y sector gwirfoddol ar gael am £20* y person neu lai - sy’n golygu ei fod o fewn cyrraedd grwpiau gwirfoddol bach a mawr fel ei gilydd.
Bydd pob un o’r 54 cwrs yn rhedeg o leiaf unwaith ym mhob un o saith rhanbarth Cymru. I archebu lle ar un o ddigwyddiadau hyfforddi Cyrsiau ar gyfer Cymunedau Cymru, cysylltwch â Derlwyn Hughes, Swyddog Gwybodaeth ar 01248 724944.
Cliciwch ar y linc isod i ddarganfod rhaglen hyfforddiant Medrwn Môn:
http://www.cyrsiauigymunedau.org.uk/