Sut mae’n gweithio?
Mae unrhyw un sydd angen cludiant ar gyfer taith hanfodol yn gofyn Medrwn Môn sy’n cofnodi’r manylion, yn cadarnhau bod y daith yn gymwys ac yn ffonio o amgylch y gyrwyr i ddod o hyd i un sy’n gallu ymgymryd â’r daith. Mae angen 36awr o leiaf a, phryd bynnag y bydd yn bosibl, trefnir teithiau fel y gellir cyfuno anghenion nifer o deithwyr. Mae’r Derbynyddion Gwirfoddol hefyd yn cynorthwyo’r Medrwn Môn i redeg y cynllun. Bydd y dull o dalu ac amcangyfrif o’r gost wedi’u trefnu cyn y daith, ynghyd ag unrhyw drefniadau eraill e.e. amser dychwelyd, os oes angen hebryngydd, a oes gan y defnyddiwr gwasanaeth gerdyn oren a.y.b.
Asesir pob cais yn ôl ei haeddiant. Mae mynediad i’r gwasanaeth fwy nag unwaith yr wythnos yn bosibl yn unig yn ôl disgresiwn Medrwn Môn.