Staff
John R Jones
Prif Swyddog
John yw Prif Swyddog Medrwn Môn ac mae’n gyfrifol am reolaeth a datblygiad
gwaith y mudiad.
Siân Purcell
Dirprwy Prif Swyddog
Prif gyfrifoldebau Siân fel Dirprwy Prif Swyddog yw hyrwyddo a darparu
gwybodaeth ar wirfoddoli, rhannu ymarfer da a dathlu gwirfoddoli. Hefyd mae
Siân yn datblygu prosiectau newydd sy’n ymwneud â gwirfoddoli a gwaith datblygu
cymunedol Medrwn Môn.
Wendy Flynn
Gweinyddwraig
Cyfrifol am faterion ariannol, cyllidol ac adnoddau dynol y mudiad, ynghyd
â’r tîm gweinyddu.
Derlwyn R Hughes
Swyddog Gwybodaeth/Hyfforddiant
Cyfrifol am gynghori a chynorthwyo grwpiau gwirfoddol/cymunedol i ddarganfod
cyllid a hefyd am ddarparu hyfforddiant ar gyfer y grwpiau gwirfoddol/cymunedol
fel rhan o’i swydd.
Linda Jones
Swyddog Gweinyddol
Mae Linda'n gyfrifol am wasanaethau cefnogol gweinyddol i staff ac i
grwpiau gwirfoddol/cymunedol eraill ar yr ynys, casglu a monitro ystadegau'r
mudiad a pharatoi’r cylchlythyrau.
Rhian Medi
Swyddog Datblygu Partneriaeth
Mae Rhian yn darparu cefnogaeth i fudiadau gwirfoddol sy’n cynrychioli’r
sector ar bartneriaethau statudol ac yn hwyluso a threfnu gweithdai ar faterion
cymunedol.
Ann Perkins
Hwyluswraig Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
Mae Ann y gyfrifol am gefnogi mudiadau gwirfoddol a chymunedol i ddatblygu a
chynnal partneriaethau cryf gydag asiantaethau sy’n ymwneud ag Iechyd, Gofal
Cymdeithasol a Lles o fewn y Sector Gwirfoddol, y Bwrdd Iechyd Lleol, a’r
Awdurdod Lleol.
Bethan Lloyd Jukes
Swyddog Gwirfoddoli Ifanc
Cyfrifol am recriwtio a lleoli gwirfoddolwyr o dan 25 oed a chysylltu â
mudiadau sy’n ymwneud â gwirfoddolwyr.
Mark Gahan
Swyddog Porth Ymgysylltu / Gwirfoddoli
Cyfrifol am brosiect y Porth Ymgysylltu a recriwtio a lleoli gwirfoddolwyr a
chysylltu â mudiadau sy’n ymwneud â gwirfoddolwyr.
Armon Williams
Swyddog Datblygu Cymunedau Mentrus
Mae’r prosiect hwn wedi’i ddatblygu i ddarparu cymorth ymarferol i sefydliadau
trydydd sector i helpu symud tuag at ddod yn fwy cynaliadwy yn ariannol. Ei nod yw galluogi sefydliadau i weithredu
mewn modd mwy effeithiol a chynhyrchu mwy o incwm eu hunain, gan gynnwys drwy
wneud cais am a darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Am fwy o wybodaeth ewch i'r dudalen Cymunedau Mentrus.
Top tudalen