Pwy all ddefnyddio Car Linc Môn?
Er mai cyfrifoldeb Medrwn Môn yw’r penderfyniad a yw taith neilltuol yn gymwys, mae’r rhestr a ganlyn yn arweiniad cychwynnol i gynorthwyo gyrwyr gwirfoddol gyda cheisiadau am gludiant os eir atynt gan unigolyn o fewn eu cymuned.
A oes gan y teithiwr fynediad i unrhyw gludiant preifat, megis car ar gael yn y cartref?
A oes unrhyw gludiant cyhoeddus y gallai’r teithiwr ei ddefnyddio?
A allai’r teithiwr newid amser y daith arfaethedig er mwyn gallu defnyddio rhyw ffurf arall ar gludiant?
A allai’r teithiwr ddefnyddio Gwasanaeth Car yr Ambiwlans?
A allai’r teithiwr yn rhesymol logi tacsi ar gyfer y daith?
A allai’r teithiwr yn rhesymol osgoi gwneud y daith yn gyfan gwbl?
A yw’r daith i’r ysgol neu ohoni?
Ni fyddai’r daith fel rheol yn ddilys os mai’r ateb i unrhyw rai o’r cwestiynau hyn yw OES neu GALLAI.