Partneriaeth Adfywio Economaidd Ynys Môn
Nod Partneriaeth Adfywio Economaidd Môn (PAEM) yw:
"Creu dyfodol llewyrchus i Ynys Môn drwy Adfywio Economaidd Cynaliadwy".
Bydd PAEM yn cyfrannu at gyflawni'r nod hwn drwy gyfrwng 5 Amcan Strategol:
- Cydlynu a monitro gweithrediad y Cynllun Datblygu Gwledig (RDP) yn effeithiol;
- Cydlynu gweithgareddau a fydd yn manteisio'n llawn ar Gronfeydd Cydgyfeiriant yr Undeb Ewropeaidd a chyllid allanol arall er mwyn cryfhau'r economi lleol;
- Darparu amgylchedd a fydd yn galluogi sefydliadau gwahanol i gyfathrebu a rhannu gwybodaeth yn effeithiol;
- Trafod ac adnabod gweithgareddau i'w blaenoriaethu mewn ymateb i'r sialensiau economaidd mawr iawn sy'n wynebu Ynys Môn
- Dwyn sylw at lwyddiannau economaidd a lobio ar y lefelau priodol o blaid mwy o ymyriad sector cyhoeddus er mwyn goresgyn y sialensiau economaidd.
Sefydlwyd Partneriaeth Adfywio Economaidd Môn, a ffurfiwyd ym 1999, ar yr egwyddor o gynrychiolaeth "un o bob pedwar" cyfartal o'r sector cyhoeddus, y sector preifat, ac o'r sectorau cymunedol a gwirfoddol, ac mae'n cynnwys 16 aelod llawn. Mae gan sefydliadau ychwanegol statws 'ymgynghorwyr' oherwydd eu meysydd arbenigol o arbenigedd.
Prif rôl PAEM, a'i un allweddol, yw monitro a gweithredu'r Cynllun Datblygu Gwledig (RDP) ac mae'r RDP yn darparu'r capasiti a'r arian i alluogi'r Bartneriaeth i weithredu.
Nodwch os gwelwch yn dda:
Mae copïau o'r agenda, cofnodion a dogfennau perthnasol o'r cyfarfodydd hyn ar gael i'w gweld yn Swyddfeydd Medrwn Môn. Mae Medrwn Môn
ar hyn o bryd mewn trafodaethau gydag asiantaethau perthnasol i gael y ddogfennau hyn ar gael yn electroneg ac ar wefan Medrwn Môn yn y dyfodol.
Cyfarfod o Bwyllgor Partneriaeth Adfywio Economaidd Môn
Cliciwch yma i ddarllen rhaglen cyfarfod 1 Chwefror 2012 a chofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 1 Tachwedd, 2011.
Cyfarfod o Bwyllgor Partneriaeth Adfywio Economaidd Môn
Cliciwch yma i ddarllen cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 1 Chwefror 2012.