Nodiadau Cyfreithiol 

(a) Rhannu Car

  • Cyn Deddf Cludiant 1978, roedd rhannu car (hyd yn oed rhannu car cymdogion yn anffurfiol) yn anghyfreithlon lle'r oedd arian yn newid dwylo ar gyfer costau petrol.
  • Ers 1980 mae cynlluniau o’r fath yn awr yn gyfreithlon (h.y. edrychir arnynt fel rhai’n syrthio y tu allan i ddiffiniad cludo teithwyr tra maent yn gweithredu yng nghwrs busnes) a chaniatáu na all y car gludo mwy nag wyth o deithwyr, nad yw’r tâl cludiant a delir yn fwy na’r costau rhedeg (a all gynnwys symiau priodol ar gyfer gostyngiad mewn gwerth, tanwydd a thraul gyffredinol) a bod y trefniadau ar gyfer talu tâl cludiant yn cael eu gwneud cyn i bob taith gychwyn.

(b) Yswiriant

  • Mae mwyafrif y cwmnïau yswiriant wedi addo nad edrychir ar dderbyn cyfraniadau fel rhan o drefniant rhannu car ar gyfer pwrpasau cymdeithasol neu rai eraill cyffelyb mewn perthynas â chludo teithwyr mewn cerbydau a yswirir o dan bolisi car preifat fel ‘llogi na gwobrwyo’ cyhyd ac na all y cerbyd gludo mwy nag wyth o deithwyr, nad yw cyfanswm y cyfraniadau a dderbynnir yn cynnwys unrhyw elfen o elw ac nad yw’r teithwyr yn cael eu cludo yng nghwrs busnes cludo teithwyr. Ymgorfforir telerau’r ymgymryd hwn yn gyffredinol yn nhelerau polisïau cerbydau modur preifat.
  • Mae Car Linc Môn yn cydnabod y meini prawf hyn, ac felly dylai yswiriant cerbyd modur preifat cyffredin a ddelir gan yrwyr gwirfoddol fod yn ddigonol i’ch galluogi i gymryd rhan mewn cynllun o’r fath. Mae’n bwysig fodd bynnag bod gyrwyr yn rhoi gwybod i’w cwmnïau yswiriant eu bod yn bwriadu cymryd rhan yn y cynllun hwn, a darperir llythyr enghreifftiol i gwmnïau yswiriant wrth recriwtio.
  • Dylai gyrwyr sydd ohoni gofio hefyd hysbysu eu cwmni yswiriant pan, er enghraifft y byddant yn newid cwmni. Pe bai unrhyw yrrwr yn derbyn cais am bremiwm uwch neu’n profi unrhyw anhawster arall mewn perthynas â’u cyfranogiad yn Gar Linc Môn, a fyddech yn gadael i Medrwn Môn wybod ar unwaith fel y gellir cysylltu â’r cwmni yswiriant.
  • Mae’n rhaid i bob gyrrwr gael polisi yswiriant cerbyd modur ‘trydydd parti’ dilys ar gyfer unrhyw gerbyd sydd i’w ddefnyddio yn Gar Linc Môn. Bydd y polisi sylfaenol hwn yn awtomatig yn darparu lleiafswm y warant gyfreithiol rhag atebolrwydd yn y gyfraith mewn perthynas â marwolaeth, iawndal am niwed a barwyd i unigolyn arall, a chost unrhyw driniaeth feddygol frys o ganlyniad i ddamwain. Bydd y warant yn ymwneud â’r holl deithwyr a gludir.
  • Wrth gofrestru ar gyfer Car Linc Môn, mae gyrwyr yn ymrwymo i gynnal polisi yswiriant modur dilys sy’n cydymffurfio â’r gofynion hyn.
  • Mae Medrwn Môn wedi gallu trefnu manteision yswiriant ychwanegol ar gyfer gyrwyr gwirfoddol pan fyddant yn defnyddio eu cerbyd eu hunain i Gar Linc Môn neu’n cynorthwyo mewn cymwysterau eraill. 

Mae’r manylion fel â chanlyn:

Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus:

      -   dim cyfyngiad oed

Damweiniau Personol Grŵp:

     - Medrwn Môn yn gweithredu dyletswyddau ar eu rhan. Y cyfyngiad oed ar gyfer y warant hon yw 75 mlwydd oed ond gellir trefnu gwarant ar gyfer rhai sydd dros ben y cyfyngiad oed hwn. Gofynnir i wirfoddolwyr dros 75 mlwydd oed arwyddo ffurflen datganiad iechyd sydd ar gael gan Medrwn Môn

     - Hawl i fudd-dal anabledd llwyr dros dro os eir â’r hawlydd i’r ysbyty a’i fod yn/ neu ei fod yn gaeth i’r tŷ.

Colli bonws am beidio â hawlio neu dalu tâl dros ben:

     -  yn awr yn ei le ers Ebrill 2000 pe bai gyrrwr gwirfoddol yn gysylltiedig â damwain ar ddyletswydd.

( c)       Gyrwyr Gwirfoddol a Threth

Mae Cyllid y Wlad yn gosod graddfeydd milltiroedd di-dreth o dan y Cynllun Ceir Elw Sefydlog. Mae’r cynllun hwn yn caniatáu am dalu lwfansau

milltiroedd heb yr angen am i’r sefydliad na’r gwirfoddolwr gadw cofnodion manwl. Am wybodaeth bellach ar y graddfeydd cyfredol, cysylltwch â’r

Swyddfa Dreth, Tŷ Glyn, Bangor (rhif ffôn: 01248 363500) am Lyfryn IR122 ‘Gyrwyr Gwirfoddol’.

Top tudalen

Ffôn 01248 724944  Ffacs 01248 750149 - Gwadiad | Cysylltwch â ni | Help
dylunio gan WiSS | WiSSCMS | Hawlfraint © 2008
Rhif Cofrestredig y Cwmni: 4197934  Rhif Elusen 1088828

Valid CSS logo
Valid XHTML logo
Logo Buddsoddwyr mewn pobl