Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
Codi Pontydd Cadarn
Mae Codi Pontydd Cadarn yn gynllun i gryfhau gweithio mewn partneriaeth rhwng y Sector Gwirfoddol, a’r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG) yng Nghymru. Gweithio mewn Partneriaeth yw’r egwyddor craidd ar gyfer gweithredu polisïau a chynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Adroddiad Codi Pontydd Cadarn yn cydnabod y rôl allweddol y gall y GIG chwarae mewn annog, cefnogi a gweithio hefo’r sector a hefyd, ar y llaw arall, cydnabod y cyfraniad pwysig gall y sector ei wneud tuag at yr agenda iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn yr un modd, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod fod gan awdurdodau lleol, ym maes gofal cymdeithasol, ran i chwarae i helpu’r sector gwirfoddol i allu cyfrannu i’r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu darparu.