Gwasanaethau a Gweithgareddau > Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles

Codi Pontydd Cadarn

Mae Codi Pontydd Cadarn yn gynllun i gryfhau gweithio mewn partneriaeth rhwng y Sector Gwirfoddol, a’r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG) yng Nghymru.  Gweithio mewn Partneriaeth yw’r egwyddor craidd ar gyfer gweithredu polisïau a chynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Adroddiad Codi Pontydd Cadarn yn cydnabod y rôl allweddol y gall y GIG chwarae mewn annog, cefnogi a gweithio hefo’r sector a hefyd, ar y llaw arall, cydnabod y cyfraniad pwysig gall y sector ei wneud tuag at yr agenda iechyd a gofal cymdeithasol.

Yn yr un modd, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod fod gan awdurdodau lleol, ym maes gofal cymdeithasol, ran i chwarae i helpu’r sector gwirfoddol i allu cyfrannu i’r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu darparu.

 

CYFEIRIADUR GWASANAETHAU IECHYD, GOFAL CYMDEITHASOL A LLES MUDIADAU GWIRFODDOL

Datblygwyd y cyfeiriadur i hyrwyddo gwasanaethau a ddarparwyd gan fudiadau gwirfoddol.

Cyhoeddwyd y cyfeiriadur ar CD mewn ffurf Mircosoft® Word i hwyluso’r broses o ddiweddaru gwybodaeth gyswllt.

Bwriad y ddogfen yw rhannu gwybodaeth ac anelir y ddogfen at ddefnydd aelodau staff mudiadau statudol a gwirfoddol. Bwriedir diweddaru’r cyfeiriadur yn gyson a bydd gwybodaeth yn cael ei ddosbarthu i chi drwy Dan Do Môn a safle we Medrwn Môn er mwyn diweddaru’r CD.

Os oes yna unrhyw fater hoffech ei drafod, cysylltwch ag Ann Perkins, Medrwn Môn, Uned 5, Parc Diwydiannol Bryn Cefni, Llangefni LL77 7XA.

Rhif Ffôn: 01248 724944 neu e-bost: ann@medrwnmon.org

Cliciwch yma am copi pdf or cyfeiriadur

 

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

Ffôn 01248 724944  Ffacs 01248 750149 - Gwadiad | Cysylltwch â ni | Help
dylunio gan WiSS | WiSSCMS | Hawlfraint © 2008
Rhif Cofrestredig y Cwmni: 4197934  Rhif Elusen 1088828

Valid CSS logo
Valid XHTML logo
Logo Buddsoddwyr mewn pobl