Hawliau tra'n gwirfoddoli
Fel gwirfoddolwr/wraig mae gennych hawliau penodol:
- Dylai fod gennych syniad clir o’r tasg(au) gwirfoddol ofynnir i chi wneud a faint o gyfrifoldeb a ddisgwylir i chi ysgwyddo.
- Disgwyl anwythiad a hyfforddiant addas i’r lefel o waith a wneir gennych.
- Derbyn goruchwyliaeth a chefnogaeth addas.
- Cyfle i gael mynediad i, a bod yn rhan o’r broses wneud penderfyniadau'r mudiad rydych yn gwirfoddoli iddo.
- Cyfleoedd Cyfartal – Bydd gan bawb hawl i wirfoddoli beth bynnag fo’u stad briodasol, oedran, cefndir, hil, cenedl neu darddiad lleiafrifol, gogwydd rhywiol, mewn gwaith neu’n ddi-waith, iaith, ymrwymiadau gofal, rhyw, cred boliticaidd neu grefyddol, dedfryd droseddol amherthnasol, taliad.
- Disgwyliad cewch eich gwarchod rhag ecsploetiaeth fel unigolyn yn ogystal â fel gwirfoddolwr/wraig.
- Bydd cyfar ar gyfer Yswiriant ac Iechyd a Diogelwch. Ni ddylai unrhyw wirfoddolwr fod o dan unrhyw risg wrth wirfoddoli
- Dylech dderbyn eich treuliau. Os nad ydych yn dymuno derbyn costau mae croeso i chwi roi’r arian yn ôl i’r mudiad gwirfoddol. Os yw hynny’n bwrpasol, dylid hefyd ddarparu cyfarpar a dillad addas ar gyfer y gwaith.
- Ymuno ag undeb.
- Ond i chi hysbysu’ch Swyddfa Fudd-daliadau leol gallwch ddal i hawlio budd-dal.