Cyflwyniad
Mae gan Medrwn Môn dîm o swyddogion ymroddedig i ymgymryd â gwaith datblygu cydgysylltiedig a chynlluniedig gyda grwpiau gwirfoddol a chymunedol ar yr ynys. Mae hyn yn cynnwys:
- Adnabod anghenion hyfforddiant
- Cyngor cyllidol
- Cyngor cyfreithiol a rheolaethol
- Mynediad i wybodaeth
Mae Medrwn Môn yn gweithio’n agos gyda grwpiau gwirfoddol a chymunedol ar Ynys Môn i’w cynorthwyo gyda datblygu prosiect:
- Cymorth gyda sefydlu mudiadau / prosiectau newydd
- Cofrestru elusen
- Cyngor a chymorth gyda ffurflenni, ceisiadau a chyllid
- Materion cyfrifon cyffredinol
- Cymorth gyda darparu cynlluniau busnes.
Mae gwasanaethau Medrwn Môn ar gael AM DDIM i fudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol.