(a) Ceisiadau i gadw lle
Dylid codi a gollwng teithwyr pryd a lle, fel y cytunwyd pan gadwyd lle, oni fyddai hynny’n golygu gadael y teithiwr mewn perygl. Dylai hyn gynnwys gwneud yn siŵr bod y teithiwr yn ddiogel yn ôl o fewn y cartref ar deithiau’n ôl. Os yw’r teithiwr yn gofyn am amser neu fan cyfarfod gwahanol, dylid rhoi gwybod am hyn i Medrwn Môn a chael ei awdurdodi ganddo ymlaen llaw. Os yw’r teithiwr yn mynegi nad yw’n ddigon da i deithio, ni ddylai fod unrhyw bwysau’n cael ei roi i newid meddwl ond dylid rhoi gwybod i’r swyddfa ar unwaith.
(b)Gwregysyddion diogelwch
Disgwylir i’r holl deithwyr sy’n defnyddio’r cynllun wisgo eu gwregys diogelwch.
Fel y crybwyllwyd eisoes, mewn seddau cefn, mae’r teithiwr yn gyfrifol yn gyfreithiol am wisgo gwregys.
Byddai’r arfer dda’n deddfu na ddylai Car Linc Môn gludo pobl nad ydynt yn barod wisgo gwregysau, oni fyddont yn destun eithrio ar sail arbennig. Y rhain yw:
- Bod ganddynt dystysgrifau meddygol neu eu bod yn bobl anabl sydd â’u hanabledd yn golygu na fyddai’n ymarferol gwisgo gwregys.
- Hyd yn oed yng nghyfnodau diweddar feichiogrwydd, dylai merched wisgo gwregys, gyda’r strap glin wedi’i ffitio dan yr abdomen.
(c) Cymorth teithwyr
Lle bynnag y bo’n bosibl, dylai teithwyr bob amser gael cynnig cymorth i fynd i mewn i’r car ac i ddod allan ohono, oni fo’n amlwg nad oes angen dim.
(d) Bagiau
Dylid gosod bagiau neu siopa yng nghist y car. Os nad yw hyn yn bosibl, dylai bagiau a osodir y tu mewn bod wedi’u diogelu’n ddigonol i atal niwed pe digwyddai’r cerbyd stopio’n sydyn.
(e) Peryglon tân
Ni ddylai teithwyr na gyrwyr ysmygu yn y car, er mwyn lleihau’r perygl o dân. Gweler hefyd ‘Argymhellion Iechyd – Ysmygu’.
(f) Anifeiliaid Anwes
Dylasai anifeiliaid anwes fod o dan reolaeth briodol er dangos bod gofal rhesymol wedi ei gymryd i arbed damwain.
Top tudalen