Cynllun Datblyu Lleol ar y Cyd
Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd (UPCC)
Mae Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn wedi penderfynu sefydlu Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd (UPCC) i baratoi Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar gyfer Ardaloedd Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd a Môn. Yn ogystal, cymeradwyodd y ddau awdurdod newidiadau cyfansoddiadol er mwyn creu Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd fydd yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
Mae’r UPCC, a sefydlwyd yn ffurfiol ar 1 Mai 2011, wedi’i lleoli yn Neuadd y Dref, Bangor, ac mae staff o’r ddau Awdurdod yn gweithio ynddi. Gweler uchod fanylion cyswllt yr UPCC.
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl ar y Cyd) Ynys Môn a Gwynedd
Gellir gweld Cylch Gorchwyl Grwp Rhanddeiliaid Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd yma
Gellir gweld Drafft llawn Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd ar gyfer Ymgynghoriad yma
Mae’r CDLl ar y Cyd yn strategaeth defnydd tir am gyfnod o 15 mlynedd, gan ddechrau yn 2011. Canolbwyntia’r cynllun ar ddatblygiad cynaliadwy. Bydd yn ceisio cyflawni’r hyn a ganlyn:
-
Rhoi arweiniad o ran datblygu tai, manwerthu, cyflogaeth a defnyddiau eraill;
-
Cynnwys polisïau fydd yn cynorthwyo’r Awdurdodau Cynllunio Lleol unigol i wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio;
-
Gwarchod ardaloedd i sicrhau bod yr amgylchedd naturiol ac adeiledig yn cael ei gynnal a’i gyfoethogi.
Am fwy o wybodaeth gwelwch Cylchlythyr y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Awst 2011
Nodwch os gwelwch yn dda:
Mae copïau o'r agenda, cofnodion a dogfennau perthnasol o'r cyfarfodydd hyn ar gael i'w gweld yn Swyddfeydd Medrwn Môn. Mae Medrwn Môn ar hyn o bryd mewn trafodaethau gydag asiantaethau perthnasol i gael y ddogfennau hyn ar gael yn electronig ac ar wefan Medrwn Môn yn y dyfodol.