Cynghrair Iechyd Ynys Môn

Mae'r Cynghreiriau Iechyd yn cael eu harwain gan yr awdurdodau lleol, gan gymryd cyfrifoldeb corfforaethol am gydlyniad eu gwasanaethau eu hunain a thynnu o gyfraniadau'r GIG ac eraill gan gynnwys gwasanaethau cymunedol a gwasanaethau nyrsys ysgol, timau cyffuriau ac alcohol lleol, partneriaethau adfywio cymunedol lleol, cynghorau gwirfoddol sirol lleol, i gefnogi rhaglenni cydlynol a chynhwysfawr o weithgareddau gwella iechyd. Dylai Cynghreiriau Iechyd Lleol hwyluso gwaith amlddisgyblaethol lleol ar draws holl swyddogaethau iechyd cyhoeddus.

 

Nodwch os gwelwch yn dda:

Mae copïau o'r agenda, cofnodion a dogfennau perthnasol o'r cyfarfodydd hyn ar gael i'w gweld yn Swyddfeydd Medrwn Môn. Mae Medrwn Môn ar hyn o bryd mewn trafodaethau gydag asiantaethau perthnasol i gael y ddogfennau hyn ar gael yn electronig ac ar wefan Medrwn Môn yn y dyfodol.

Ewch i wefan y Cyngor Ynys Môn am fwy o wybodaeth am Gynghrair Iechyd Ynys Môn.

 

Ffôn 01248 724944  Ffacs 01248 750149 - Gwadiad | Cysylltwch â ni | Help
dylunio gan WiSS | WiSSCMS | Hawlfraint © 2008
Rhif Cofrestredig y Cwmni: 4197934  Rhif Elusen 1088828

Valid CSS logo
Valid XHTML logo
Logo Buddsoddwyr mewn pobl