Prosiect Cymunedau Mentrus
“Meithrin Menter Gymdeithasol Leol”
- Ydy’ch grwp angen cymorth gydag ariannu a chynhyrchu incwm?
- Darganfod hi'n anodd i gael arian i dalu am ddigwyddiadau, gwasanaethau, staff neu wirfoddolwyr?
- Neu oes gennych syniad sut i gynhyrchu incwm ar gyfer eich grŵp?
- Oes gennych chi syniad ar gyfer menter neu fusnes?
Cysylltwch â'r Swyddog Cymunedau Mentrus yn Medrwn Môn (Cyngor Gwirfoddol Sirol ar gyfer Ynys Môn). Mae'r gwasanaeth yma’n ceisio helpu a chefnogi grwpiau cymunedol a sefydliadau'r sector gwirfoddol i fynd i'r afael â materion ariannu ac incwm, i ddod yn fwy cynaliadwy ac yn darparu cymorth a chyngor yn ymwneud â materion megis:
- Ymarfer da a gwell ffyrdd o weithio
- Sut i gefnogi staff a gwirfoddolwyr
- Strwythurau cyfreithiol gwahanol
- Rheolaeth ariannol
- Cyllid cynaliadwy a cynhyrchu incwm
Armon Williams, Swyddog Cymunedau Mentrus, Medrwn Môn, Uned 5C, Parc Bryn Cefni, Llangefni, LL77 7XA
Rhif ffôn: 01248 724944
e-bost: armon@medrwnmon.org
Mae'r prosiect hwn wedi ei ddatblygu i ddarparu cymorth ymarferol i sefydliadau trydydd sector i helpu i symud tuag at ddod yn fwy cynaliadwy yn ariannol. Ei nod yw galluogi sefydliadau i weithredu mewn modd mwy effeithiol a chynhyrchu mwy o incwm eu hunain, gan gynnwys drwy wneud cais am a darparu gwasanaethau cyhoeddus. Bydd hyn yn cefnogi cynnwys materion yn ymwneud â datblygu sefydliadol a llywodraethu yn ogystal â datblygu a chefnogi gwirfoddolwyr.
Bydd y prosiect yn darparu gwybodaeth a chyngor generig ar ariannu, rheolaeth, datblygu gwirfoddolwyr i sefydliadau trydydd sector, yn ogystal â chynnig cymorth mwy penodol tuag at gynaladwyedd ariannol ac yn canolbwyntio a rhoi cymorth o ddyfnder i sefydliadau trydydd sector.
Grwpiau targed y prosiect yw sefydliadau trydydd sector a defnyddwyr eu gwasanaethau, a thrigolion cymunedau gwledig a threfol amddifadus yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd. Bydd y rhain yn amrywio o fuddiolwyr sydd â’u prif ddiben o gynnig cymorth datblygiadol neu ddarparu gwasanaethau i'w cymunedau lleol ehangach cymunedau lleol i rhai y mae eu targedau yn canolbwyntio mwy ar grwpiau diddordeb penodol (megis pobl hŷn neu fenywod).
Cliciwch yma i weld dogfen pdf gyda gwybodaeth a chrynodeb manylach o'r Prosiect Cymunedau Mentrus.
Marc Mentrau Cymdeithasol: Gallwch chi ymddiried yn y Marc Menter Gymdeithasol i ddangos busnesau i chi sydd â chymdeithas ac amgylchedd yn eu calon. Pam? Oherwydd mai Marc Cwmni Menter Gymdeithasol yw'r awdurdod ardystio unigol ar gyfer mentrau cymdeithasol.