Cyfleoedd Cyfartal 

Mae Medrwn Môn yn cydnabod bod gan bawb gyfraniad i’w wneud i’n cymdeithas a hawl i driniaeth gyfartal.

Trinnir pobl gydag urddas a pharch gwaeth beth fo eu hil, cenedl, rhyw, gogwydd rhywiol, iaith, anabledd, oedran, eu hargyhoeddiad gwleidyddol neu grefyddol, eu statws cyflogaeth, collfarnau troseddol amherthynol, tâl ac   ymrwymiadau gofal.

Ar bob achlysur gwelir gwerth mewn teimladau pobl a pherchir hwy.

Ni ddefnyddir iaith na hiwmor y mae pobl yn eu gweld yn dramgwyddus e.e. jôcs rhywiaethol neu hiliol, neu derminoleg sy’n ddifrïol i rywun gydag anabledd.

Ni aflonyddir ar neu gam-drin na’u dychryn ar sail eu hil, rhyw, oed, cenedl, gogwydd rhywiol na’u crefydd.

Ymdrinnir yn ddifrifol â digwyddiadau o aflonyddu.

Ffôn 01248 724944  Ffacs 01248 750149 - Gwadiad | Cysylltwch â ni | Help
dylunio gan WiSS | WiSSCMS | Hawlfraint © 2008
Rhif Cofrestredig y Cwmni: 4197934  Rhif Elusen 1088828

Valid CSS logo
Valid XHTML logo
Logo Buddsoddwyr mewn pobl