Cerbydau

Cyn taith gyntaf y gwirfoddolwr, mae angen archwilio’r eitemau a ganlyn a gwneud llungopïau ar gyfer cofnodion y Medrwn Môn:

  • Trwydded Yrru Ddilys
  • Tystysgrif MOT – cadwch gofnod o rif cofrestru’r ceir a ddefnyddir a newidiadau ceir
  • Tystysgrifau yswiriant (gweler yr adran flaenorol ar gyfer gofynion yswiriant)
  • Llythyr awdurdodi wedi’i arwyddo o’r cwmni yswiriant

Archwiliadau Cerbydau a Chynnal a Chadw Dyddiol

  • Dylid peri bod gyrwyr yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb i weithredu archwiliadau rheolaidd ar addasrwydd eu ceir i’r ffordd fawr, fel y gosodwyd yn Adran 28 Rheolau’r Ffordd Fawr.
  • Dylai’r gyrrwr archwilio ar sail reolaidd y goleuadau, breciau, llyw, teiars( yn cynnwys rhai sbâr), system ecsôst, gwregysau diogelwch, diniwlwyr, sychwyr ffenestri, golchwyr, sgriniau gwynt, ffenestri, goleuadau, cyfeiryddion, adlewyrchwyd, drychau a phlatiau rhif, addasiadau cywir seddau, gwregysyddion diogelwch, ategion pennau, a drychau.
  • Bydd Medrwn Môn yn trefnu i weld pob gyrrwr gwirfoddol ar sail flynyddol i ddiweddaru cofnodion yr uchod.

Ffôn 01248 724944  Ffacs 01248 750149 - Gwadiad | Cysylltwch â ni | Help
dylunio gan WiSS | WiSSCMS | Hawlfraint © 2008
Rhif Cofrestredig y Cwmni: 4197934  Rhif Elusen 1088828

Valid CSS logo
Valid XHTML logo
Logo Buddsoddwyr mewn pobl