Bwrdd Diogelu Plant Gwynedd-Môn
Mae gan y Bwrdd Diogelu Plant dair prif nod sy'n cael eu rhestru yma yn nhrefn blaenoriaeth:
- Amddiffyn pant rhag cael eu cam-drin
- Atal amhariad ar iechyd a datblygiad plant
- Sicrhau bod plant yn tyfu mewn amgylchiadau sy'n gyson â gofal diogel ac effeithiol
Wrth wraidd y tair nod uchod mae'r angen i ofalu bod gwybodaeth yn cael ei rhannu yn effeithiol ac yn effeithlon er mwyn diogelu plant.
Prif swyddogaeth y bwrdd yw:
"Cydgysylltu yr hyn a wneir gan ei aelodau i ddiogelu a hyrwyddo lles plant yn ardal yr awdurdod a'i sefydlodd a sicrhau effeithiolrwydd yr hyn sy'n cael ei wneud gan bob unigolyn neu sefydliad i'r perwyl hwnnw."
Mae Partneriaid allweddol yn cynnwys Cyngor Gywnedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Heddlu Gogledd Cymru, Y Gwasanaeth Prawf, Y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, NSPCC, Y Gwasanaeth Tân ac Achub, CAFCASS, Mantell Gwynedd, Medrwn Môn, Barnardos, RAF Fali, Prifysgol Bangor, Coleg Meirion/Dwyfor a Gwasanaeth Ambiwlans Gwynedd.
Nodwch os gwelwch yn dda:
Mae copïau o'r agenda, cofnodion a dogfennau perthnasol o'r cyfarfodydd hyn ar gael i'w gweld yn Swyddfeydd Medrwn Môn. Mae Medrwn Môn ar hyn o bryd mewn trafodaethau gydag asiantaethau perthnasol i gael y ddogfennau hyn ar gael yn electronig ac ar wefan Medrwn Môn yn y dyfodol.
************************************************
Adroddiad Fframwaith Sicrhau Ansawdd 2010 - 2011
I ddarllen Adroddiad Fframwaith Sicrhau Ansawdd 2010 cliciwch yma.