Beth sydd dan sylw?
‘Car Linc Môn’ yw’r enw a fabwysiadwyd gan Medrwn Môn ar gyfer y cynllun cludiant cymunedol cymdeithasol gwirfoddol ar yr ynys. Mae’r cynllun hwn yn darparu lifftiau i bobl nad ydynt fel arall yn gallu gwneud teithiau hanfodol oherwydd diffyg cludiant.
Mae wedi’i gynllunio’n bennaf ar gyfer ardaloedd gwledig lle mae gwasanaethau cludiant cyhoeddus yn anaml, ond mae hefyd yn darparu ar gyfer pobl nad ydynt yn ddigon ffit i ddefnyddio cludiant cyhoeddus, angen sy’n gymwys yn y dref ac yn y wlad fel ei gilydd. Mae’r cynllun yn darparu gwasanaeth hanfodol i’r bobl hynny nad oes unrhyw ffordd arall ar gael ar eu cyfer.