Beth gallwch chi ei gynnig?
Yn gyntaf ac yn bennaf - mae gan
bawb rywbeth i’w gynnig.
Golyga gwirfoddoli wneud ymrwymiad i wneud rhywbeth yn y gymuned ac/neu yn eich maes dewisedig, gan wneud hyn i eithaf eich gallu. Er mwyn sicrhau llwyddiant yn eich lleoliad gwirfoddol, cynghorwn i chwi’n gyntaf i ofyn y cwestiynau isod i chi’ch hunan:
- Beth yw eich sgiliau a’ch diddordebau arbennig chi?
- Beth ydych chi’n wirioneddol fwynhau ei wneud?
- Os yw’n well gennych weithio gyda pobl, neu mewn grwpiau neu’n unigol?
- A wnaethoch chi erioed dreulio diwrnod gyda plant anodd eu trin, plant sy’n barhaus absennol o’r ysgol neu unrhyw grwpiau eraill? Os felly, sut roeddech yn teimlo erbyn diwedd y diwrnod?
- Ydych chi’n mwynhau gwneud y pethau sy’n rhwydd i chi, neu oes well gennych yr her o wneud rhywbeth newydd?
- Ydych chi ar eich gorau yn delio ag argyfwng neu ydych chi’n llawn braw?
- Faint o amser allwch chi roi – un diwrnod yr wythnos, y mis neu fwy na hynny?
- Ar ba ddydd(iau) neu adeg(au) o’r dydd ydych chi ar gael?
- Am ba hyd allwch chi wneud ymrwymiad?
- Oes gennych gludiant eich hunan? Os nad oes, pa mor hawdd ydyw i chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?
- A yw’ch amgylchiadau’n debygol o newid yn y dyfodol agos?
- Ydych chi’n cael eich gwthio/annog/gorfodi i wneud gwaith gwirfoddol, neu ydych chi’n dewis ei wneud o’ch gwirfodd?
Cofiwch fod y gair gwirfodd yn hanfodol mewn gwirfoddoli.
Top tudalen