Dyddiadur - Hydref 2011
Dydd Sadwrn 1af Hydref: Eisteddfod Ddwyieithog Pobl Hŷn Môn 2011 (dros 50 oed)
10.30y.b. yn Ysgol Gyfun Llangefni
Mynediad £2.50
*****************************************************************************
Dydd Llun 3ydd Hydref 2011
Rhwydwaith Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
9am-1pm yng Nghlwb Rygbi Llangefni
*****************************************************************************
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Medrwn Môn
5pm Dydd Mawrth, 4ydd Hydref 2011
Canolfan Esceifiog, Gaerwen
- 5 - 5.45pm - Cyfarfod Blynyddol Medrwn Môn (Aelodau Medrwn Môn yn unig)
- Bydd Uchel Siryf Gwynedd ac Ynys Môn yn cyflwyno tystysgrifau i wirfoddolwyr
- 5.45pm - Ymgynghoriad ar Gynllun Cymunedol Ynys Môn (sy’n agored i bawb)
- A llawer mwy…
*****************************************************************************
Dydd Mawrth 4ydd Hydref: Newid mewn comisiynu – dyddiad i'ch dyddiaduron (Neuadd Morfa, Y Rhyl)
Mae prosesau comisiynu gwasanaethau cyhoeddus yn newid. Wrth i gyrff cyhoeddus fynd ati i wneud arbedion effeithlonrwydd yn eu prosesau, a chydweithio mwy, mae mudiadau’r trydydd sector yn edrych ar oblygiadau contractau gwasanaethau cyhoeddus generig, rhanbarthol neu fwy.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
*****************************************************************************
Ffair Bywyd Iach a Chartref Ddiogel Ynys Môn
10am-4pm Dydd Mercher 5ed Hydref 2011
Cyngor a gwybodaeth ar nifer o bynciau, stondinau, adloniant, prawf blancedi trydan a llawer mwy..
*****************************************************************************
Dydd Gwener 14eg Hydref: Ymgynghoriad cyhoeddus ar Wasanaethau Dwyieithog cyn y broses ddeddfu
Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Comisiwn y Cynulliad) wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar fframwaith newydd i reoli ei ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog. Byddai Bil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) yn cynnwys darpariaethau ynghylch defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn ystod trafodion y Cynulliad Cenedlaethol, ac wrth gyflawni swyddogaethau Comisiwn y Cynulliad.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
*****************************************************************************
Dydd Mercher 26ain Hydref: Cymerwch ran yn Wythnos Ymddiriedolwyr (Llandudno)
Cynhelir yr Wythnos Ymddiriedolwyr flynyddol am yr ail dro rhwng 31 Hydref – 6 Tachwedd 2011, yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau sy’n dangos gwaith ymddiriedolwyr ac yn tynnu sylw at gyfleoedd i bobl gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
*****************************************************************************
Wythnos Ymddiriedolwyr 2011 31 Hydref - 6 Tachwedd
Ewch i wefan Wythnos Ymddiriedolwyr (wefan saesneg) am fwy o wybodaeth.