Ysgrifenwyr Môntage
CYNLLUNIAU AM LYFR NEWYDD I DDATHLU YSGRIFENWYR MÔN
YDYCH CHI’N YSGRIFENNWR? OS YDYCH, MAE HWN I CHI.
Y mae ‘Write-On’ a ‘Copper Writers’, dau grŵp ysgrifennu ym Môn, wedi dod at ei gilydd mewn project i gyflwyno llyfr dwyieithog o waith gan ysgrifenwyr Môn. Maent wedi derbyn grant o £2000 gan Gyngor y Celfyddydau drwy ‘Gwanwyn’. Dywedodd Edwina Jones, siaradwraig ar ran y grŵp: “’Rydym yn chwilio am gerddi, unrhyw fath o storïau, e.e. ysbrydion, dirgelwch, trosedd, comedi, ffantasi, rhamant, ac ysgrifennu ffeithiol: e.e. cofiannau, hanes neu erthyglau teithio lleol.”
Rheolau ar gyfer ymgeisio
Rhaid i ysgrifenwyr fyw ym Môn
Dylai ysgrifenwyr dan 18 oed roi eu hoed ar dop eu ceisiadau. (Rydym eisiau sicrhau ein bod yn rhoi cyfle i ysgrifenwyr o bob oed.)
Gall y gwaith fod yn Gymraeg neu yn Saesneg a dylai gael naill ai thema fyd-eang neu gyswllt lleol.
Uchafswm o 1,500 o eiriau – llai os yn bosib.
Bydd penderfyniad y pwyllgor yn derfynol.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Mai 2012.
Os hoffech anfon eich gwaith drwy’r post:
- Anfonwch 3 chopi o bob cais os gwelwch yn dda.
- Rhowch ffugenw ar ben pob tudalen.
- Atodwch amlen wedi ei selio yn cynnwys gwir enw’r awdur a manylion cysylltu gyda phob ymgais.
Anfonwch geisiadau trwy’r post at: Y Golygydd, Môntage,3 Cil y Graig, DWYRAN, Ynys Môn, LL61 6BD
Dychwelir gwaith os bydd amlen gyda chyfeiriad a stamp arni wedi ei chynnwys gyda’r gwaith.
Bydd yr awdur yn cadw’r hawlfraint.
Pe bai’n well gennych anfon gwaith drwy e-bost:
Anfonwch ef at montagewriters@gmail.com
Anfonwch ef fel atodiad a rhowch ffugenw ar ben pob tudalen.
Am ragor o fanylion ffoniwch 01248 714551 neu 01248 852623