(a) Ysmygu
Dylid gwahardd hyn tra byddwch ar daith Car Linc Môn (neu’n uniongyrchol o’i blaen) er mwyn atal tân ac er mwyn osgoi problemau anadlu posibl ar gyfer rhai teithwyr. Ni ddylid caniatáu i unrhyw deithwyr ysmygu am yr un rhesymau.
(b) Cymhwyster i yrru
Mae’n rhaid i yrwyr roi gwybod am unrhyw waeledd (hyd yn oed annwyd) a allai beri risg i deithiwr, ac am unrhyw foddion a allai effeithio ar y gallu i yrru. Ni ddylid yfed unrhyw ddiod feddwol yn y 12 awr o flaen taith Car Linc Môn. Dylid peri bod gyrwyr yn ymwybodol bod angen cyfnod sylweddol i holl effeithiau alcohol wisgo ymaith.
(c) Oed
Dylai pob gyrrwr gwirfoddol fod yn 21 oed o leiaf. Ar gyrraedd 70 oed, mae’n rhaid i yrwyr ail-geisio am drwydded yrru, lle mae ei rhoi yn ddarostyngedig i gwrdd â rhai meini prawf iechyd. Am fanylion pellach gweler ‘Nodiadau
Cyfreithiol – Yswiriant.
(d) Problemau golwg
Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn datgan bod yn rhaid i yrrwr allu darllen plât rhif o bellter o 20.5m(67tr.) neu oddeutu 5 hyd gar.
(e) Anableddau
Disgwylir i yrwyr roi adroddiad o unrhyw anabledd a alleffeithio’n barhaol neu dros dro ar eu gallu i yrru, neu i gynorthwyo teithwyr.
(f) Gwaeledd
Os nad yw gyrrwr gwirfoddol yn dda, rhowch wybod i Medrwn Môn. Disgwylir i yrwyr roi adroddiad i’r DVLA am unrhyw waeledd a/neu foddion a allai effeithio ar eu gallu i yrru.
Mae’n RHAID i yrwyr ddweud wrth y DVLA os ydynt yn cael unrhyw rai o’r canlynol: Fel arall mae trosedd yn cael ei chyflawni:
- Digwyddiad epileptig (trawiad neu episod)
- Ymosodiad sydyn o bendro, llewygu neu flacowt sy’n anablu
- Anfantais feddyliol lym
- Rheolydd calon diffibriliwr neu ddyfais tacycardia gwrthfentriglol
- Clefyd siwgr a reolir gan Inswlin
- Clefyd siwgr a reolir gan dabledi
- Angina (poen calon) wrth yrru
- Afiechyd Parkinson
- Unrhyw gyflwr niwrolegol cronig arall
- Problem ddifrifol gyda’r cof
- Problem ddifrifol gyda dryswch
- Strôc fawr neu fechan
- Unrhyw fath o lawdriniaeth ar yr ymennydd, tyfiant ar yr ymennydd neu niwed difrifol i’r pen sy’n cynnwys triniaeth glaf fewnol mewn ysbyty
- Unrhyw waeledd seiciatryddol neu afiechyd meddwl llym
- Anhawster parhaol parhaus wrth ddefnyddio’r breichiau neu’r coesau sy’n effeithio ar eich gallu i reoli eich cerbyd yn ddiogel
- Dibyniaeth ar alcohol, cyffuriau anghyfreithlon neu sylweddau cemegol neu gamddefnydd ohonynt yn y 3 blynedd ddiwethaf (peidiwch â chynnwys troseddau yfed/gyrru)
- Unrhyw anabledd gweledol sy’n effeithio ar y DDAU lygad. (Peidiwch â datgan golwg hir/byr, lliwddallineb)
- Unrhyw gyflwr ar y galon neu lawdriniaeth ar y galon
- Golwg mewn un llygad yn unig – gweler adran d
- Unrhyw broblemau gweledol sy’n effeithio ar unrhyw un llygad – gweler adran d
Mae’n RHAID ichi yn ôl y gyfraith ddweud wrth y DVLA am unrhyw rai o’r cyflyrau hyn
(g) Oriau’r gyrrwr
Nid oes unrhyw ddeddfwriaeth yn rheoli moduro preifat – dim ond y gofyn cyffredinol yn Rheolau’r Ffordd Fawr y dylai ceir fod wedi’u hawyru’n dda ac y dylai’r gyrrwr orffwys os yw’n teimlo’n gysglyd. Mae cyngor diweddar yr Adran Cludiant yn awgrymu y dylai gyrwyr fod yn cymryd seibiant sy’n o leiaf 15 munud bob 2 awr p’run ai yn ystod taith arbennig neu rhwng teithiau. Dylid disgwyl i yrwyr roi adroddiad i’r trefnwyr am unrhyw waith a delir neu sydd heb ei dalu, neu weithgareddau ingol eraill, a allai effeithio ar eu gallu i weithredu taith arbennig. Mae’n rhaid cymryd y ffactorau hyn i gyd i ystyriaeth yn ystod y broses drefnu.
Top tudalen